School Logo

Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las

'Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd'

Interactive bar

Get in touch

Contact Details

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Rhaglen Jigsaw

Wythnos Iechyd a Lles 2022

Still image for this video

 

Adfer Adferol

 

Dull cymharol newydd yw arfer adferol, yn deillio o’r system cyfiawnder troseddol, sy’n rhoi fframwaith i oedolion i hybu gwneud yn iawn cyn belled ag sy’n bosib yn dilyn digwyddiad o fwlïo. Yn y bôn, nod y dull hwn yw datblygu cymuned a rheoli gwrthdaro a thyndra trwy roi’r grym i bobl ifanc i wneud yn iawn a meithrin perthnasau. Mae’n cymell y rhai hynny sydd wedi achosi niwed i gydnabod effaith yr hyn maent wedi’i wneud ac mae’n rhoi’r cyfle iddynt i wneud yn iawn am eu gweithredoedd. Mae’n galluogi’r sawl a niweidiwyd i gael eraill i gydnabod y niwed a achoswyd iddynt ac i wneud yn iawn amdano. Yn ddiweddar, fe wnaeth Thorsborne a Vinegrad (2008) gymhwyso’r dull hwn wrth daclu bwlïo a phwysleisio ei fod yn ymwneud â gweithio gyda phobl, yn hytrach na gwneud pethau ar eu rhan. Mae angen hyfforddi oedolion i gynnal cynhadledd adferol, yn seiliedig ar gyfres o gwestiynau syml ond effeithiol. Mae’r cwestiynau canlynol yn ddibynadwy wrth ymateb i ymddygiad heriol:

 

  • Beth ddigwyddodd?
  • Beth oedd ar dy feddwl ar y pryd?
  • Beth sydd wedi bod ar dy feddwl ers hynny?
  • Pwy sydd wedi cael eu heffeithio gan dy weithredoedd di?
  • Ym mha ffordd mae hyn wedi effeithio arnat ti?
  • Beth wyt ti’n meddwl sydd angen i ti ei wneud i wneud yn iawn am y gweithredoedd yma?

Bwriad y cwestiynau canlynol yw helpu’r rhai hynny a niweidiwyd gan weithredoedd pobl eraill:

  • Beth oeddet ti’n meddwl pan sylweddolaist ti beth oedd wedi digwydd?
  • Beth sydd wedi bod ar dy feddwl ers hynny?
  • Sut mae hyn wedi effeithio arnat ti a phobl eraill?
  • Beth oedd y peth anoddaf i ti?
  • Yn dy farn di, beth sydd angen digwydd i wneud yn iawn am y gweithredoedd yma?

 

Bydd y cwestiynau yma, pan eu bod yn cael eu holi yn eu trefn, yn creu ymateb sy’n deg ac yn adferol. Bydd yn cynnwys pawb sy’n gysylltiedig, a dylai arwain at gasgliad teg a pharchus i’r gynhadledd. Nid yw hwylusydd y gynhadledd yn gwneud penderfyniadau na’n dylanwadu arnynt, ond mae’n gadael i’r cyfranogwyr i fynegi eu hunain ac i ddod o hyd i’w atebion creadigol eu hunain.

Arfer Adferol / Restorative Practice

Top