School Logo

Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las

'Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd'

Interactive bar

Get in touch

Contact Details

Chwaraeon / Sports

Addysg Gorfforol

Mae gan yr ysgol hanes hir o lwyddiant yn y maes yma ac rydym yn ymfalchïo yn yr holl weithgareddau a gynigir i bobdisgybl yn y maes. Ar ddiwedd Haf 2014 fe gydnabuwyd ein hymrwymiad gan Chwaraeon Cymru a gwobrwywyd yr ysgol am ragoriaeth gyda  arc Actif Cymru. Rydym yn ceisio gwella hunan hyder, ymwybyddiaeth a phwysigrwydd  iechyd a rheolaeth corff pob plentyn drwy weithgareddau unigol a grwp. Darparwn wersi sy'n gwella gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a gallu mewn gymnasteg, gemau, athletau, dawns, nofio a gweithgareddau awyr agored.


Yn y Cyfnod Sylfaen mae pob plentyn yn cael 1 awr yr wythnos o wersi Addysg Gorfforol, ac yng Nghyfnod Allweddol Dau mae'r plant yn derbyn 1 awr a hanner o wersi. Yn  ogystal, mae yna gyfle i blant o'r ddau gyfnod i fynychu clybiau ar ôl ysgol a gynhelir ar dir yr ysgol. Mae gan yr ysgol nifer o dimau fel y gallant
gystadlu yn unigol ac fel rhan o dîm.


Mae'r timau ar gyfer bechgyn a merched
yn cynnwys:
Timau pêl droed
Timau pêl rwyd
Timau rygbi
Timau nofio
Timau rhedeg traws gwlad
Timau treiathlon
Tîm gymnasteg
Tîm criced (yn yr Haf)
Tîm athletau
Tîm pêl fasged
Tîm rownderi
Tîm tenis


Yn flynyddol mae'r ysgol hefyd yn cynnal diwrnod o ymwybyddiaeth ffitrwydd ac iechyd ac yn cydweithio'n agos ag asiantaethau lleol. Maent yn dod i'r ysgol er mwyn cynnig blas ar weithgareddau corfforol a gynigir o fewn y gymdeithas leol.


Mae dillad addas yn bwysig ar gyfer Addysg Gorfforol ac mae gan yr ysgol wisg a ellir ei harchebu o swyddfa'r ysgol. Disgwylir y bydd pob plentyn yn newid ar gyfer addysg gorfforol ac yna yn newid nôl i'w gwisg ysgol ar ddiwedd y wers. Ni chaniateir i unrhyw un i wisgo gemwaith yn ystod gwersi er mwyn sicrhau diogelwch personol.

Physical Education
The school has a long history of achievement in this area and we pride ourselves on the wide variety of activities we offer all our pupils. In the Summer of 2014 we were recognised by Sports Wales for our dedication and excellence in this area and we were awarded by ActivMark Wales.

 

We aim to improve every child’s self confidence, awareness and body control through individual and group activities. We also endeavour to emphasise the importance of good health and healthy living. We provide carefully planned lessons which enhance knowledge, skills, understanding and ability in gymnastics, games, athletics, dance, swimming and outdoor activities. Each child in the Foundation Phase will receive an hour of Physical education lessons, and in Key Stage 2 this will increase to an hour and a half of lessons. Furthermore, there are opportunities for children of all ages to attend after school clubs which are held at school. The school also has several teams, which give pupils the opportunity to participate in competitions as individuals or as team members.


The teams for both boys and girls
include:
Football teams
Netball teams
Rugby teams
Swimming teams
Cross country running teams
Triathlon teams
Gymnastics teams
Cricket team ( Summer)
Tennis team
Also, every year, a day to enhance the awareness and understanding of health and
fitness is also held at the school, and we co-work closely with local agencies. They
are invited to the school to offer taster sessions on numerous physical activities
which are offered within the local community.
Appropriate clothing is very important for Physical Education and the school has its
own outfit for this purpose, which can be purchased via the school office. All
children are expected to change for Physical Education lessons and then change
back to their school uniform at the end of every session.
Jewellery is not permitted during lessons to ensure personal safety.

Top